Bydd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, yn cynnal y 9fed Cynhadledd Gŵyl Ddewi ar 4 Mawrth, a fydd yn canolbwyntio ar botensial trawsnewidiol plismona sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y digwyddiad blynyddol hwn yn dod ag academyddion, gwneuthurwyr polisi ac ymarferwyr blaenllaw at ei gilydd i archwilio i’r ffordd y gall strategaethau a ysgogir gan ddata wella arferion plismona a chanlyniadau cymunedol.

Bydd y gynhadledd yn arddangos y defnydd ymarferol o blismona sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan amlygu cyfleoedd ar gyfer gwaith partneriaeth, cydweithio academaidd, ac arloesedd mewnol.

Mae themâu allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Egwyddorion sylfaenol plismona sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Cyfleoedd ar gyfer gweithredu ymarferol mewn plismona bob dydd.
  • Cyflwyniadau ar fentrau plismona llwyddiannus sy’n seiliedig ar dystiolaeth o bob cwr o Gymru a Lloegr.

Gan sylwi ar y digwyddiad sydd yn yr arfaeth, dywedodd CHtH Dafydd Llywelyn: “Mae plismona sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ein galluogi i wneud penderfyniadau mwy gwybodus sy’n gallu cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau. Mae’r gynhadledd hon yn gyfle amhrisiadwy i rannu arferion gorau, meithrin cydweithio, ac ysbrydoli mabwysiadu’r ymagweddau hyn ar draws y sector plismona.”

Bydd y digwyddiad yn cynnwys ystod o gyflwyniadau a thrafodaethau, gan arddangos prosiectau sy’n mynd rhagddynt a rhai sydd wedi’u cwblhau sy’n dangos manteision ymagweddau a hysbysir gan dystiolaeth.

Manylion y Digwyddiad:
📅 Dyddiad: 4 Mawrth
📍 Lleoliad: Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys
🔗 Cofrestrwch Fan Hyn: Dolen Eventbrite

Mae 9fed Cynhadledd Gŵyl Ddewi’n anelu i ysbrydoli trafodaethau ac annog mabwysiadu ehangach strategaethau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau bod arferion plismona’n effeithiol ac effeithlon.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 14/01/2025