Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, wedi lansio ei Gynllun Heddlu a Throseddu pedair blynedd ar gyfer 2025 – 2029, gan nodi ei weledigaeth i wella ymddiriedaeth a hyder mewn plismona lleol.  

Mae’r cynllun yn adlewyrchu blaenoriaethau pobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys mewn perthynas â phlismona, trosedd, a’r system cyfiawnder troseddol. Cafodd ei ddatblygu yn dilyn ymgynghori cyhoeddus cynhwysfawr, gan gynnwys arolygon a grwpiau ffocws, lle nododd preswylwyr eu pryderon a’u blaenoriaethau allweddol ar gyfer plismona.  

Y tri phrif flaenoriaeth yn y cynllun yw: 

  • Cefnogi dioddefwyr ac atal erledigaeth 
  • Cefnogi cymunedau diogel drwy atal niwed 
  • Cefnogi system cyfiawnder troseddol fwy effeithiol 
  • Mae’r cynllun yn rhoi manylion am yr amcanion ar gyfer Heddlu Dyfed-Powys ac yn amlinellu’r camau bydd y Comisiynydd yn eu cymryd ochr yn ochr â phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus  er mwyn cyflenwi’r blaenoriaethau hyn.   

Cafoddy Cynllun Heddlu a Throseddu’n cael ei lansio’n ffurfiol mewn digwyddiad ar 13 Chwefror, gan ddod chynrychiolwyr owasanaethau a gomisiynir a phartneriaid allweddol at ei gilydd. Roedd y lansiar yn gyfle i amlinellu’r blaenoriaethau a fydd yn arwain gwaith y Comisiynydd dros y bum mlynedd nesaf a chafwyr cyfle I  archwilio sut y gall ymdrechion ar y cyd helpu i gyflawni nodau’r cynllun. Roedd y trafodaethau’n canolbwyntio ar gryfhau partneriaethau a sicrhau ymagwedd gydlynol tuag at fynd i’r afael â throsedd, cefnogi dioddefwyr, a chyflenwi cyfiawnder ledled ardal Dyfed-Powys.  

Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn: “Mae’r cynllun hwn yn seiliedig ar farn a phryderon ein cymunedau, gan sicrhau ein bod ni’n canolbwyntio ar yr hyn sydd wir yn bwysig i bobl Canolbarth a Gorllewin Cymru. Fy ymrwymiad yw parhau i weithio gyda Heddlu Dyfed-Powys a’n partneriaid i gadw ein cymunedau’n ddiogel, atal niwed, a gwella’r system cyfiawnder troseddol." 

Mae sicrhau bod dioddefwyr trosedd yn derbyn y gefnogaeth iawn yn parhau I fod yn ffocws allweddol. "Rhaid i ddioddefwyr fod wrth galon ein system plismona a chyfiawnder. Mae’n hollbwysig bod y rhai sydd wedi’u heffeithio gan drosedd yn cael mynediad at gymorth amserol ac effeithiol, a fydd yn eu helpu i adfer a cheisio cyfiawnder. Mae cryfhau gwasanaethau sy’n atal erledigaeth lawn mor bwysig ag ymateb i drosedd ei hun." 

Mae atal niwed yn flaenoriaeth arall, gyda phwyslais cryf ar fynd i’r afael ag achosion craidd trosedd. "Drwy fynd i’r afael â materion megis ymddygiad gwrthgymdeithasol a bregusrwydd, gallwn leihau niwed a chreu cymdeithas fwy gwydn. Bydd ymagwedd ragweithiol sy’n canolbwyntio ar broblemau’n sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithiol er mwyn diogelu ein cymunedau." 

Bydd cydweithio ar draws y system gyfiawnder yn hanfodol o ran cyflwyno gwelliannau tymor hir. "Mae system gyfiawnder gref a theg yn dibynnu ar asiantaethau’n cydweithio. Byddaf yn parhau i weithio’n agos â phartneriaid er mwyn sicrhau bod plismona, y llysoedd a gwasanaethau cymorth yn cyflenwi cyfiawnder yn effeithlon a theg ar gyfer dioddefwyr a chymunedau fel ei gilydd." 

Mae’r Cynllun Heddlu a Throseddu’n nodi cyfeiriad clir ar gyfer plismona yn ardal Dyfed-Powys dros y pedair blynedd nesaf, gan ganolbwyntio ar welliannau ystyrlon sy’n gwella diogelwch cyhoeddus, yn cefnogi dioddefwyr, ac yn sicrhau system gyfiawnder effeithiol ac effeithlon.  

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 13/02/2025