Yn ddiweddar, aeth Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) Dafydd Llywelyn i’r digwyddiad ‘Cwrdd â’r Cyflogwyr’ ym Mhrifysgol Aberystwyth, lle yr ymunodd â phanel o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar draws sector y gyfraith a throseddeg.  
Rhoddodd y digwyddiad gyfle i fyfyrwyr glywed yn uniongyrchol gan ymarferwyr am eu gyrfaoedd, y sefydliadau maen nhw’n cynrychioli, a’r ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael o fewn y system cyfiawnder troseddol.

Yn ystod y sesiwn, siaradodd CHTh Llywelyn am ei rôl fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar gyfer ardal Dyfed-Powys a gwaith Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh). Yn ogystal, rhannodd fewnwelediadau i’w daith yrfa ei hun a thrafododd bwysigrwydd gwaith partneriaeth mewn plismona a diogelwch cymunedol.

Cafodd y myfyrwyr gyfle wedyn i holi cwestiynau a chael gwell dealltwriaeth o’r ffordd mae rolau gwahanol yn cyfrannu at y system cyfiawnder troseddol ehangach, yn ogystal â’r sgiliau a’r profiad sy’n gallu eu helpu i ddilyn gyrfaoedd yn y sector.

Meddai Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:
“Roedd hi’n bleser cymryd rhan yn y digwyddiad ‘Cwrdd â’r Cyflogwyr’ ym Mhrifysgol Aberystwyth a siarad â myfyrwyr a oedd yn ystyried gyrfaoedd o fewn plismona, troseddeg a’r sector cyfiawnder ehangach.

“Mae cyfleoedd fel rhain yn bwysig i helpu myfyrwyr i ddeall y rolau gwahanol sy’n cyfrannu at gadw ein cymunedau’n ddiogel, ac ar yr un pryd, cynnig cyfle i rannu fy nhaith yrfa fy hun a gwaith fy swyddfa.

“Hoffwn ddiolch i Brifysgol Aberystwyth am y gwahoddiad ac am roi cyfle mor werthfawr i gysylltu myfyrwyr â gweithwyr proffesiynol ar draws y sector.”

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 12/03/2026