Gyda phrysurdeb y Nadolig ar ddechrau, mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn yn annog pobl i drin gweithwyr siop gyda charedigrwydd a pharch wrth iddo addo ei gefnogaeth i’r ymgyrch ‘Parch i Weithwyr Siop’.

Fel rhan o’i ymrwymiad i fynd i’r afael â throseddau manwerthu a chefnogi busnesau lleol, bydd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn yn ymweld â rhai siopau ar draws y rhanbarth i gwrdd â staff manwerthu, clywed eu profiadau, a thrafod mesurau i fynd i’r afael ag achosion o gam-drin a thrais.

Dywedodd y Comisiynydd Llywelyn: "Mae staff manwerthu yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn aml yn gweithio'n ddiflino i'n gwasanaethu ni. Maen nhw'n haeddu teimlo'n ddiogel ac yn cael eu parchu yn y gwaith. Mae cam-drin, bygythiadau, a thrais tuag at weithwyr siop yn gwbl annerbyniol, ac rwy'n sefyll yn gadarn gyda yr ymgyrch hon i hyrwyddo parch a chefnogaeth i'r rhai yn y sector manwerthu.

Yn ystod fy ymweliadau â siopau lleol yn ardal Ceredigion ddechrau mis Rhagfyr, byddaf yn gwrando ar bryderon staff ac yn edrych ar sut y gallwn gydweithio â busnesau, yr heddlu, a sefydliadau partner i sicrhau yr eir i’r afael â throseddau manwerthu yn effeithiol a bod staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Mae’r Comisiynydd yn annog pawb i chwarae eu rhan drwy drin gweithwyr siop gyda charedigrwydd a pharch, yn enwedig yn ystod cyfnod prysur yr ŵyl.

Diwedd

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 28/11/2024