Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn Ne Powys ar gyfer Diwrnod Ymgysylltu Cymunedol
Yn gynharach yr wythnos hon, roedd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn Ne Powys i gwrdd â chynrychiolwyr cymunedol, busnesau a thrigolion fel rhan o ddiwrnod ymgysylltu cymunedol.
Wrth ymweld â Chwmdu a Thalgarth, cyfarfu Mr Llywelyn â Chynghorwyr i ddysgu mwy am bryderon diogelwch ffyrdd ar brif ffordd yr A479. Mae deiseb wedi’i chreu yn galw am leihau cyfyngiadau cyflymder yn y ddau bentref, creu terfyn pwysau ar gyfer hyd llawn y ffordd, rheoliadau sŵn cerbydau, a gosod llwybrau beicio a cherdded, sydd i gyd yn faterion i Lywodraeth Cymru eu hystyried.
Roedd y CHTh yn gallu trafod y pryderon hyn gyda chynghorwyr lleol, a hefyd gyda thrigolion sy’n byw ar ochr yr A479 i ddeall yr effaith y mae traffig y ffordd yn ei chael arnynt yn unigol, a’u heiddo. Yn ddiweddarach yn y dydd, ymwelodd Mr Llywelyn ag Ysgol Mynydd Du, a’r Llyfrgell Gymunedol yn Nhalgarth i gwrdd â staff a gwirfoddolwyr yn ogystal â Llysgennad Diogelwch Ffyrdd yr Ysgolion.
Roedd Mr Llywelyn yn gallu rhoi sicrwydd i bawb bod Uned Plismona’r Ffyrdd Heddlu Dyfed-Powys a Gan Bwyll yn ymwybodol o’r pryderon lleol, a dywedodd, “Rwy’n rhannu’r pryderon diogelwch ffyrdd a godwyd heddiw yma yn Nhalgarth a Chwmdu, ac yn llwyr gefnogi deiseb leol yn galw am newidiadau ar yr A479.
“Mae’r galwadau hyn yn faterion i Lywodraeth Cymru a’r Asiantaeth Cefnffyrdd eu hystyried, nid yr Heddlu. Fodd bynnag, byddaf yn ysgrifennu at swyddogion a gweinidogion y Llywodraeth i rannu’r pryderon ac i fynegi fy nghefnogaeth i rai o’r galwadau am newid.
“Rwyf hefyd wedi cael diweddariadau a sicrwydd gan Gan Bwyll a’n Huned Plismona’r Ffyrdd ym Mhowys ynghylch ardaloedd gorfodi ar yr A479, tra bod Talgarth hefyd yn cynnal cynllun gwylio cyflymdra cymunedol yn yr ardal. Dyma lle mae llythyrau cynghori yn cael eu cynhyrchu gan grwpiau gwirfoddol sy'n canfod nad yw modurwyr yn cydymffurfio â'r terfyn cyflymder. Mae eu trothwy yr un peth â'r trothwy erlyn.
“Gwelais drosof fy hun heddiw yr effaith y mae’r ffordd hon yn ei chael ar y gymuned, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu i’w cefnogi gyda’r newidiadau y maent yn galw amdanynt”.
DIWEDD
Gwybodaeth bellach:
OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk
Article Date: 22/02/2024