Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn lansio ymgynghoriad ar gyllideb plismona
Heddiw, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn wedi lansio ei ymgynghoriad blynyddol yn gofyn i drigolion ledled ardal Dyfed-Powys rannu eu barn ar gyllideb plismona a phraesept y dreth gyngor y flwyddyn nesaf.
Bob blwyddyn, rhaid i'r Comisiynydd benderfynu faint o gyllid i'w godi'n lleol drwy braesept yr heddlu - y rhan o'ch treth gyngor sy'n helpu i dalu am blismona yn ardal Dyfed-Powys. Daw tua hanner cyllideb Heddlu Dyfed-Powys gan Lywodraeth y DU, gyda'r gweddill yn cael ei godi'n lleol drwy'r dreth gyngor.
Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn:
“Mae gosod y lefel gywir o braesept bob amser yn gydbwysedd gofalus rhwng cynnal gwasanaethau plismona hanfodol a chydnabod y pwysau ariannol y mae aelwydydd yn eu hwynebu. Mae eich adborth yn fy helpu i sicrhau bod blaenoriaethau lleol ac anghenion cymunedol yn cael eu hadlewyrchu'n briodol yng nghyllideb y flwyddyn nesaf.”
Mae'r Comisiynydd yn ystyried sawl opsiwn ar gyfer sut y gellid gosod praesept 2026-2027 ac mae eisiau deall sut mae pobl leol yn teimlo am effaith newidiadau posibl. Gall hyd yn oed cynnydd bach wneud gwahaniaeth i gadw swyddogion yn weladwy, ymateb i alwadau, a buddsoddi mewn atal troseddau a thechnoleg sy'n cadw cymunedau'n ddiogel.
Gall trigolion gwblhau'r arolwg byr ar-lein yma: neu drwy sganio'r cod QR. Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o ddydd llun, 24 Tachwedd 2025 tan 5 Ionawr, 2026.
Bydd yr holl ymatebion yn helpu i lywio cynnig terfynol y Comisiynydd i Banel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn gynnar y flwyddyn nesaf.
Ychwanegodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn:
“Mae eich barn yn wirioneddol bwysig. Yr ymgynghoriad hwn yw eich cyfle i ddylanwadu ar sut mae plismona'n cael ei ariannu'n lleol ac i'n helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol gyda'n gilydd.”
Am ragor o wybodaeth am yr ymgynghoriad a sut mae'r praesept yn cefnogi plismona yn eich ardal, ewch i: Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 23/11/2025