Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, wedi sicrhau bron £1 miliwn gan y Swyddfa Gartref i gydweithio ag Awdurdodau Lleol a Heddlu Dyfed-Powys ar fentrau sydd wedi’u hanelu at fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.  

Menter a gefnogir gan y llywodraeth ar gyfer mynd i’r afael â digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn mannau problemus a nodwyd a’u lleihau yw’r Gronfa Ymateb i Ardaloedd â Phroblem Ymddygiad Gwrthgymdeithasol. Mae’r gronfa hon yn cyfuno’r ffrydiau gwaith cyllid grip ac ymateb i ardaloedd â phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol a roddwyd i ddeg heddlu peilot yn 2022/23, gan greu ymagwedd fwy effeithiol a chynhwysfawr tuag at ddiogelwch cymunedol.

Arweiniodd cydweithio cadarnhaol rhwng Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh), Heddlu Dyfed-Powys ac Awdurdodau Lleol at y Swyddfa Gartref yn cymeradwyo’r mentrau canlynol ar gyfer 2024/25:

  • Heddlu Dyfed-Powys (HDP): £601,877.23. Bydd y rhan fwyaf o’r arian hwn yn ariannu patrolau ychwanegol mewn mannau problemau a nodwyd, gyda’r gweddill yn cefnogi gwaith dadansoddi a gweithgareddau datrys problemau.
  • Cyngor Sir Benfro: £141,336.10 ar gyfer patrolio a mentrau datrys problemau.
  • Cyngor Sir Gaerfyrddin: £148,036.55 ar gyfer tai cymunedol a wardeniaid amgylcheddol a mesurau datrys problemau.  
  • Cyngor Sir Powys: £90,000 ar gyfer mentrau datrys problemau, gan gynnwys rhai mesurau patrolio.  
  • Cyngor Sir Ceredigion: £18,650 ar gyfer ymdrechion datrys problemau.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn: "Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol gael effaith ddirfawr ar ei ddioddefwyr, ac mewn rhai achosion, ar y gymuned ehangach. Er mwyn ymateb yn effeithiol i ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae angen arloesedd, partneriaethau cryf rhwng asiantaethau lleol, a meddylfryd sy’n rhoi dioddefwyr yn gyntaf. Mae’r mentrau hyn sy’n ymwneud ag ardaloedd â phroblem ymddygiad gwrthgymdeithasol yn anelu i gyflawni hynny."

Drwy Ymgyrch Ivydene Heddlu Dyfed-Powys, bydd deg ardal a nodwyd fel ardaloedd sydd â phroblem ymddygiad gwrthgymdeithasol yn derbyn 11,000 awr yn ychwanegol o batrolau heddlu dros yr wyth mis nesaf.  

Mae’r mannau problemus hyn yn cynnwys:

  • Sir Gaerfyrddin: Tyisha, Elli / canol tref Llanelli, canol tref Caerfyrddin, a Rhydaman.
  • Ceredigion: Aberystwyth ac Aberaeron.
  • Sir Benfro: Canol tref Hwlffordd a chanol tref Dinbych-y-pysgod.
  • Powys: Dwyrain y Drenewydd ac Aberhonddu .

 

Disgwylir i’r mentrau hyn wella diogelwch cymunedol a lleihau digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardaloedd hyn.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 13/08/2024