Mae Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys wedi rhyddhau ei Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-24, sy’n tynnu sylw at y llwyddiannau a’r heriau sylweddol a wynebwyd gan y gwasanaeth heddlu dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r adroddiad cynhwysfawr hwn yn amlinellu’r cynnydd a wnaed tuag at y blaenoriaethau allweddol a nodir yng Nghynllun Heddlu a Throseddu 2021-2025, gan ganolbwyntio ar feysydd hanfodol cefnogi dioddefwyr, atal niwed, a gwella effeithiolrwydd y system gyfiawnder.  

Drwy gydol y flwyddyn, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi bod dan y chwyddwydr, ac mae’r adroddiad yn adlewyrchu ymrwymiad swyddogion a staff i fodloni anghenion esblygol y gymuned. Mae’r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd ymgysylltu cymunedol, ac ymwelodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, â nifer o gymunedau i wrando ar bryderon ac adborth y cyhoedd.

Yn ei ragair, dywedodd y Comisiynydd Llywelyn, “Mae eleni wedi cyflwyno heriau sylweddol, ond mae hefyd wedi amlygu ymrwymiad ein swyddogion a’n staff tuag at wasanaethu cymunedau Dyfed-Powys. Drwy wrando ar y cyhoedd ac addasu ein gwasanaethau, rydyn ni’n anelu i greu amgylcheddau mwy diogel i bawb. Rwy’n falch o’r ymdrechion cydweithredol a ddangosir yn yr adroddiad hwn, ac rwyf dal wedi ymrwymo i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed. Mae ein ffocws ar fod yn atebol, yn dryloyw, ac yn ymatebol i anghenion ein cymunedau’n hollbwysig.”

Nid yn unig y mae’r adroddiad yn adolygu’r llwyddiannau o ran cefnogi dioddefwyr trosedd, y mae hefyd yn mynd i’r afael â’r heriau parhaus a wynebir gan yr heddlu, gan gynnwys pennu adnoddau a diogelwch cymunedol. Bydd y mewnwelediadau a gasglwyd drwy gydol y flwyddyn yn hysbysu strategaethau a mentrau yn y dyfodol sydd wedi’u hanelu at wella gwasanaethau plismona ledled y rhanbarth.

Gellir lawrlwytho’r adroddiad llawn fan hyn.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 06/11/2024