Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn, wedi cyhoeddi lansiad ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Gynllun Heddlu a Throseddu diweddaredig ar gyfer 2025-2029 yn ffurfiol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn anelu i gynnwys y gymuned o ran llunio dyfodol plismona lleol, gan ailddatgan ei ymrwymiad i greu cymunedau mwy diogel a gwella ymddiriedaeth gyhoeddus yn yr heddlu a’r system gyfiawnder troseddol ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Un o brif ddyletswyddau Comisiynydd Heddlu a Throseddu yw cynhyrchu Cynllun Heddlu a Throseddu sy’n nodi’r cyfeiriad ar gyfer plismona am y pedair blynedd nesaf. Dogfen gyfreithiol y mae’n rhaid i Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh) ei chynhyrchu o dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 yw hon. Glasbrint ar gyfer plismona lleol yw’r Cynllun Heddlu a Throseddu, a ddatblygir drwy ymgynghori’n helaeth â’r cyhoedd, ymchwilio ac asesu adnoddau ac anghenion lleol.

  “Mae diogelwch ein cymunedau a’u hymddiriedaeth yn ein plismona’n hollbwysig,” dywedodd CHTh Llywelyn. “Mae’r ymgynghoriad hwn yn gam hanfodol o ran datblygu ein Cynllun Heddlu a Throseddu diweddaredig. Drwy wrando ar leisiau ein cymuned drwy arolygon a grwpiau ffocws, yr ydym yn sicrhau bod ein strategaeth yn gyson â’u hanghenion a’u pryderon.

"Fy ngweledigaeth gyffredinol ar gyfer y pedair blynedd nesaf yw gwella ffydd a hyder y cyhoedd yn y gwasanaeth plismona, gan wneud Dyfed-Powys yn le diogel i fyw, dysgu, gweithio a theithio. Er mwyn cyflawni hyn, hoffwn ganolbwyntio ar dri maes allweddol: cefnogi cymunedau mwy diogel ac atal niwed, cefnogi dioddefwyr ac atal erledigaeth, a chyflwyno cyfiawnder.

"Mae pob cam gweithredu a gymerir gan yr heddlu a gwasanaethau cyfiawnder wedi’i anelu at ddarparu’r cymorth gorau i ddioddefwyr. Mae atal niwed a mynd i’r afael â gwraidd problemau’n hanfodol. Drwy gydweithio’n effeithiol â phartneriaid sector cyhoeddus a sicrhau gwybodaeth arbenigol o’n gwasanaethau a gomisiynir, yr ydym yn anelu i gyflwyno system gyfiawnder sydd wir yn gwasanaethu ac yn diogelu’r cyhoedd.

“Rhaid i anghenion dioddefwyr fod yn ganolog i’n holl ymdrechion, ac mae’ch adborth yn hanfodol ar gyfer llunio ein blaenoriaethau plismona. Drwy gymryd rhan yn yr Ymgynghoriad ar y Cynllun Heddlu a Throseddu, mae gennych gyfle i ddylanwadu ar benderfyniadau plismona hollbwysig, gan sicrhau y gall Heddlu Dyfed-Powys barhau i ddiogelu ei gymunedau gyda’r safon gwasanaeth uchaf sydd ar gael.  

"Mae’n fraint gennyf barhau i wasanaethu fel eich Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n adeiladu Dyfed-Powys mwy diogel a gwydn.”

 

Ynglŷn â Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys

Mae Dafydd Llywelyn wedi bod yn gwasanaethu fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys ers 2016. Yn ei drydydd tymor yn y swydd, bydd yn anelu i ailddatgan ei ymrwymiad tuag at ddiogelwch cymunedol, arloesedd o fewn plismona ac eiriolaeth i hawliau dioddefwyr, ac mae’n annog cymunedau ardal Dyfed-Powys i leisio eu safbwyntiau a’u barn drwy’r Ymgynghoriad ar y Cynllun Heddlu a Throseddu. 

Article Date: 08/07/2024