Arweiniodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh), Dafydd Llywelyn, ddiwrnod ymgysylltu cymunedol heddiw, sy'n ymroddedig i rymuso lleisiau ieuenctid, tynnu sylw at ddiogelwch ar y ffyrdd, a chryfhau partneriaethau gydag arweinwyr lleol yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r digwyddiad yn cyd-fynd â Diwrnod Cenedlaethol Ieuenctid ar 24 Tachwedd 2024, ac yn dathlu cyfraniadau amhrisiadwy llysgenhadon ieuenctid yn ein cymunedau.
 
Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniad i aelodau o dîm Swyddfa’r Comisiynydd, ac yna ymweliad a Dalfa Dafen yn Llanelli, lle cyfarfu'r CHth a'r llysgenhadon ieuenctid ag Ymwelwyr Annibynnol Dalfeydd a Staff Dalfeydd. Mae'r ymweliad hwn yn tynnu sylw at rôl hanfodol goruchwyliaeth a thryloywder dalfeydd, meysydd lle mae llysgenhadon ieuenctid yn awyddus i gyfrannu eu safbwyntiau.
Yn ystod y prynhawn, ymunodd llysgenhadon â CHth Llywelyn i archwilio diogelwch ar y ffyrdd gyda'r Uned Plismona'r Ffyrdd yn Cross Hands, lle buont ar daith o amgylch Cerbyd Plismona'r Ffyrdd i baratoi ar gyfer Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd yr wythnos nesaf.  Gyda mwy o bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol a diogelwch ar y ffyrdd yn y rhanbarth, mae'r llysgenhadon hyn yn darparu persbectif ieuenctid hanfodol ar faterion dybryd.
Daeth y diwrnod i ben gyda chyfarfod rhwng y llysgenhadon ieuenctid, y Comisiynydd a'r Prif Gwnstabl, Dr Richard Lewis i drafod ehangu cyfranogiad ieuenctid, gan gynnwys y posibilrwydd o greu Paneli Ieuenctid ar gyfer gwaith craffu pellach. Mae'r fenter hon yn adlewyrchu ymrwymiad y Comisiynydd i rymuso lleisiau ifanc i ddylanwadu ar bolisïau ac arferion yr heddlu sy'n effeithio ar eu bywydau bob dydd.
Os ydych chi'n angerddol am ymgysylltu â phobl ifanc ac â diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth, ystyriwch ymuno â rhaglen Llysgenhadon Ieuenctid Heddlu Dyfed-Powys. Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/atebolrwydd-a-chraffu/cynlluniau-gwirfoddoli/llysgenhadon-ieuenctid/

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 13/11/2024