Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dafydd Llywelyn yn arwyddo Addewid Diogelwch Ffyrdd cenedlaethol i leihau nifer y marwolaethau ar ffyrdd Dyfed-Powys

Heddiw, llofnododd Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) Dafydd Llywelyn Addewid Prosiect Edward 2024-2028, i ailddatgan ei gefnogaeth i’r ymgyrch, trwy ymrwymo i chwarae ei ran trwy gydol ei dymor presennol yn y swydd i helpu i leihau nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu sy’n cael anafiadau difrifol ar ffyrdd Dyfed-Powys.

Mae Prosiect Edward (Bob Dydd Heb Farwolaeth ar y Ffyrdd), yn ymgyrch diogelwch ffyrdd flynyddol genedlaethol, a gefnogir gan y llywodraeth, y gwasanaethau brys, asiantaethau priffyrdd, sefydliadau diogelwch ffyrdd a busnesau Prydeinig.

Thema ymgyrch 2024 yw ‘Gweithredu a yrrir gan Ddata, ar gyfer symudedd mwy diogel’, ac mae trefnwyr yn annog pobl i lofnodi addewid Prosiect Edward, gan gadarnhau eu parodrwydd i sicrhau diogelwch ffyrdd.

Heddiw, roedd trefnwyr Prosiect EDWARD ym Mhencadlys yr Heddlu i gwrdd â CHTh Dafydd Llywelyn i drafod heriau diogelwch ffyrdd yn ardal Dyfed-Powys.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn: “Mae diogelwch ar y ffyrdd yn fater mor bwysig, ac yn un y gallwn ni i gyd chwarae ein rhan ynddo drwy fyfyrio ar y risgiau rydyn ni’n eu hwynebu a’r risgiau rydyn ni’n eu peri i eraill. Fel arweinydd sydd wedi ymrwymo i ddiogelwch a lles pawb yn fy rhanbarth, heddiw, rwyf wedi addo blaenoriaethu diogelwch ar y ffyrdd trwy ymdrechion cynhwysfawr a chydweithredol.

“Gan gydnabod bod diogelwch ar y ffyrdd yn gyfrifoldeb a rennir, rwyf wedi ymrwymo i ymgysylltu â chymunedau lleol i ddeall eu pryderon ynghylch diogelwch ffyrdd a chydweithio i fynd i’r afael â nhw.

“Unwaith i ni lansio ein Cynllun Heddlu a Throseddu newydd ar gyfer 2025-2029 yn ddiweddarach eleni, byddaf yn adolygu ac yn adrodd yn rheolaidd ar gynnydd a heriau diogelwch ar y ffyrdd, gan ddwyn fy hun, fy Swyddfa, a Heddlu Dyfed-Powys i gyfrif”.

Heddiw, roedd trefnwyr Prosiect Edward yn teithio i bob ardal Heddlu yng Nghymru i gwrdd â’r Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (CHTh) a byddant yn rhyddhau cyfres o gyfweliadau fideo gyda phob Comisiynydd ym mis Hydref.

DIWEDD

Manylion pellach:

Ymgyrch Prosiect Edward

Cysyllwt: OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 03/05/2024