Mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh) Llywelyn yn nodi Wythnos Rhuban Gwyn 2025 drwy ailddatgan ein hymrwymiad tuag at atal trais yn erbyn menywod a merched, a thrwy dynnu sylw at brosiectau allweddol sy’n gweithio i herio agweddau niweidiol a hyrwyddo parch ledled ardal Dyfed-Powys.

Eleni, rydyn ni’n sbotoleuo mentrau a arweinir gan ieuenctid, megis ymgyrch Yo Bro, sy’n cefnogi bechgyn a dynion ifainc i archwilio i wrywdod cadarnhaol, herio casineb at wragedd, a gwneud dewisiadau diogel, parchus. Rydyn ni hefyd yn parhau i gefnogi rhaglenni lleol sy’n grymuso llysgenhadon ifainc i hyrwyddo cydraddoldeb a pherthnasau parchus o fewn eu hysgolion a’u cymunedau.

Ochr yn ochr â’r gwaith ymyrraeth gynnar hwn, mae’r Comisiynydd yn ariannu amrediad o wasanaethau arbenigol, gan roi cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig, trais rhywiol a stelcio ledled ardal Dyfed-Powys.

Drwy gydol Wythnos Rhuban Gwyn, bydd cydweithwyr o SCHTh yn ymgysylltu â phartneriaid lleol a phobl ifainc i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r neges nad oes gan drais yn erbyn menywod a merched le yn ein cymunedau.

Dywedodd CHTh Llywelyn:
“Mae Wythnos Rhuban Gwyn yn ein hatgoffa bod atal trais yn dechrau gydag addysg a pharch. Mae’r gwaith pwerus sy’n digwydd ledled ein cymunedau’n arbennig gyda phobl ifainc sy’n helpu i hybu newid diwylliannol cadarnhaol wedi fy nghalonogi."

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 24/11/2025