Gwahoddir trigolion Aberhonddu a’r cyffiniau i fynychu Cyfarfod Cyhoeddus gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys Dafydd Llywelyn ddydd Mercher, 26 Mawrth 2025, yn Neuadd y Dref, Aberhonddu.

Bydd y cyfarfod, a gynhelir am 7:00 pm, yn rhoi cyfle i aelodau’r cyhoedd glywed am flaenoriaethau plismona a throseddu lleol, gofyn cwestiynau, a chodi pryderon yn uniongyrchol gyda’r Comisiynydd.

Cyn y cyfarfod, cynhelir Cymhorthfa Agored yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu, rhwng 3:00 a 5:00 PM. Bydd y sesiwn galw heibio hon yn galluogi trigolion i siarad un-i-un gyda chynrychiolwyr o Swyddfa’r Comisiynydd am unrhyw blismona neu faterion diogelwch cymunedol.

Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn:
"Mae ymgysylltu â chymunedau yn rhan allweddol o fy rôl, ac rwy'n annog trigolion i ddod i'r cyfarfod cyhoeddus neu gymhorthfa agored. Mae'r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i gael trafodaethau agored ar faterion plismona sy'n effeithio ar Aberhonddu ac ardal Dyfed-Powys yn ehangach."

Mae’r digwyddiadau hyn yn agored i bawb, ac anogir trigolion i fynychu i rannu eu barn a dysgu mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud i wella plismona a diogelwch cymunedol yn y rhanbarth.

Am ragor o wybodaeth, ewch i neu dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol.

 

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 14/03/2024