Ymwelodd Comisiynydd Heddlu a Throseddu (CHTh) Dafydd Llywelyn yn ddiweddar â Chanolfan Reoli’r Heddlu (CRH) i weld y buddsoddiadau a’r gwelliannau sylweddol a wnaed fel rhan o’i ymrwymiad i wella diogelwch cyhoeddus. Mae’r datblygiadau hyn yn dilyn y cynnydd yn y praesept y llynedd, gyda gwelliannau pellach ar droed yn dilyn cynnydd eleni.

Ers Ionawr 2024, mae CRH wedi croesawu 48 o weithwyr newydd, fel rhan o ymgyrch recriwtio mawr a ariannir drwy Gynnydd Praesept y CHTh Llywelyn. Mae’r staff ychwanegol, a benodwyd dros bum derbyniad dilynol, wedi helpu sicrhau CRH mwy cydnerth ac ymatebol, sy’n chwarae rhan hanfodol yn cydlynu ymateb yr heddlu i ddigwyddiadau ar draws Dyfed-Powys.

Gyda’r cynnydd mewn personél, cafwyd uwchraddiadau sylweddol i CRH, gan gynnwys gosod gweithfannau, desgiau, cadeiriau, ac offer TG newydd ar gyfer y tîm sy’n tyfu. Elfen allweddol o’r cynllun gwelliannau yw lansiad y Rhaglen Hyfforddiant Hollgymwysedig newydd, gyda’r bwriad o greu gweithredwyr amlsgiliau sydd wedi eu hyfforddi ym mhob rôl CRH, gan gynnwys Ymdrin â Chysylltiadau, Gweithredoedd Desg Ddigidol, Gweithredoedd Teledu Cylch Cyfyng, Cefnogi Anfoniadau Radio, a Gweithredu  Anfoniadau Radio. Drwy gyfuno’r rolau hyn a oedd yn flaenorol ar wahân, bydd yr heddlu mewn gwell safle i reoli’r galwadau a’r digwyddiadau sy’n dod i mewn gyda hyblygrwydd ac yn fwy effeithiol. Disgwylir i’r rhaglen hyfforddiant gymryd tua 18 mis i’w gweithredu’n llwyr.

Yn ogystal â chynyddiadau staff a hyfforddiant, gall CRH nawr ymfalchïo mewn ail ystafell reoli â chyfarpar llawn, ymateb uniongyrchol i ganfyddiadau Ymchwiliad Arena Manceinion. Mae’r ystafell reoli ychwanegol yn sicrhau os bydd digwyddiad mawr, y gall yr heddlu redeg gweithredoedd yn ddi-dor o Ganolfan Reoli’r Heddlu tra hefyd yn cynnal busnes arferol yn y brif ystafell reoli. Mae’r lleoliad ychwanegol hwn, sydd â chyfarpar ar gyfer 12 o bobl, yn darparu amgylchfyd cydweithredol lle gall wasanaethau’r heddlu, ambiwlans, tân, a phartneriaid gwasanaethau brys eraill gydweithio yn ystod digwyddiadau critigol.

Gwelliant arall sydd ar droed i Ganolfan Reoli’r Heddlu yw cyflwyno llwyfan Teleffoni a Radio o'r radd flaenaf, a ddisgwylir i fynd yn fyw yn ddiweddarach eleni. Bydd y system newydd hon, gydag opsiynau pennu llwybrau galwadau deallus, yn gwella ymhellach allu’r heddlu i ymdrin â galwadau am wasanaeth yn effeithlon.

Mynegodd CHTh Llywelyn ei falchder yn y cynnydd a wnaed mor belled ac ailadroddodd ei ymrwymiad i gyflawni’r addewidion a wnaeth i’r cyhoedd. Dywedodd “Mae’r gwelliannau rydym wedi eu gwneud i Ganolfan Reoli’r Heddlu yn rhan allweddol o fy addewid i sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn diogelwch cyhoeddus ac yn moderneiddio ein dulliau. Bydd yr adnoddau ychwanegol, uwch-dechnoleg, a’r dulliau newydd o weithio yn cyfoethogi ein gallu i wasanaethu’r cyhoedd ac ymateb i argyfyngau yn fwy effeithiol.”

Gwybodaeth bellach:

Am fwy o wybodaeth am y gwelliannau diweddar a phrosiectau cyfredol o fewn Heddlu Dyfed Powys, cysylltwch â Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys (dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/

Ebost:  OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 09/09/2024