Yr wythnos hon, mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, yn ymweld â’r Sioe Frenhinol yn Llanfair-ym-Muallt ar gyfer trafodaethau allweddol gydag Undebau Amaethwyr, Gweinidogion y Llywodraeth a phartneriaid eraill am hyrwyddo’r Cynllun Heddlu a Throseddu a chefnogi cymunedau gwledig.

Gan gydnabod yr heriau unigryw a wynebir gan ardaloedd gwledig, yn enwedig fan hyn yn Nyfed-Powys, sef yr ardal fwyaf gwledig o’r holl ardaloedd heddlu yng Nghymru a Lloegr, mae CHTh Llywelyn yn anelu i ddefnyddio’r digwyddiad allweddol hwn yn Llanfair-ym-Muallt fel cyfle i wella dealltwriaeth a chydweithio ymysg rhanddeiliaid allweddol er mwyn mynd i’r afael â materion gwledig yn effeithiol ar y cyd.

Yn y Sioe, bydd CHTh Llywelyn yn cwrdd â chynrychiolwyr o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain, Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifainc Cymru, Undeb Amaethwyr Cymru, a Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt. Bydd trafodaethau’n canolbwyntio ar fentrau a syniadau amrywiol wedi’u hanelu at hyrwyddo cydweithio a chefnogi ein cymunedau amaethyddol. Un o’r uchafbwyntiau fydd lansio’r fenter “Ffit i Ffermio”, sy’n canolbwyntio ar les a ffitrwydd ffermwyr.

Bydd CHTh hefyd yn ymweld â’r ganolfan reoli amlasiantaeth yn Neuadd y Strand i gwrdd â chynrychiolwyr o Grŵp Diogelwch Digwyddiadau Llanfair-ym-Muallt a phartneriaid golau glas eraill. Mae’r tîm hwn, mewn cydweithrediad ag Ambiwlans Sant Ioan, yn sicrhau diogelwch a lles ymwelwyr drwy ddarparu mynediad at ddŵr, gorsafoedd gwefru ffôn a chymorth meddygol.

Mae’r Sioe Frenhinol yn un o’r digwyddiadau uchaf ei fri o’i fath yn Ewrop ac yn un o brif ddigwyddiadau Cymru, gan ddenu dros 200,000 o ymwelwyr i ardal Heddlu Dyfed-Powys o bob cwr o’r byd. O’r herwydd, gall canol tref Llanfair-ym-Muallt fod yn amgylchedd heriol i wasanaethau brys yn ystod yr wythnos, yn arbennig gyda’r nos. 

Yn ogystal â’r mentrau a’r trafodaethau pwysig hyn, mae SCHTh yn cynnal cystadleuaeth er mwyn annog pobl i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sy’n mynd rhagddo ar y Cynllun Heddlu a Throseddu. Bydd ymwelwyr sy’n cwblhau’r ymgynghoriad yn cael cyfle i ennill dau grys Cymru. Mae’r gystadleuaeth hon yn rhan o ymdrech ehangach i gasglu mewnbwn ac adborth gan y gymuned, sy’n hanfodol ar gyfer llunio polisïau a mentrau yn y dyfodol.

Dywedodd CHTh Dafydd Llywelyn: “Mae bob amser yn fraint bod yma yn Llanfair-ym-Muallt yn y Sioe Frenhinol. Er ei bod yn sioe amaethyddol, mae rhywbeth yma i bawb, ac rwy’n falch o’r croeso sydd bob amser yn cael ei gynnig yma i’r 200,000 o ymwelwyr. Hoffwn longyfarch y trefnwyr a’r gymuned leol yn Llanfair-ym-Muallt.

“I mi, fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, mae’r sioe hon yn gyfle i ymgysylltu â phartneriaid allweddol i fynd i’r afael â materion hanfodol sy’n effeithio ar ein cymunedau gwledig. Drwy hyrwyddo’r Cynllun Heddlu a Throseddu a gweithio law yn llaw gyda phartneriaid, gallwn roi strategaethau ar waith sy’n cefnogi ac yn gwella diogelwch a lles ein cymunedau.

“Mae cael y trafodaethau adeiladol hyn gyda phartneriaid yn amhrisiadwy o ran nodi cyfleoedd cydweithredol ac unigryw a datrysiadau ymarferol sy’n medru atgyfnerthu ein hymrwymiad tuag at wneud ardal Dyfed-Powys yn le mwy diogel i bawb.”

Mae SCHTh yn parhau i annog aelodau o’r gymuned i lenwi’r ffurflen ymgynghori ar gyfer y Cynllun Heddlu a Throseddu. Cewch fynediad i’r ffurflen fan hyn:

Unwaith yn rhagor, profodd y Sioe Frenhinol yn llwyfan amhrisiadwy ar gyfer gwella ymgysylltu cymunedol, trafod materion allweddol, a hyrwyddo mentrau sy’n cefnogi ac yn cryfhau ein cymunedau gwledig.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 22/07/2024