CHTh Dafydd Llywelyn i Gynnal Cyfarfod Cyhoeddus yn Llanbedr Pont Steffan
Mae Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (CHTh), yn gwahodd aelodau o’r cyhoedd i Gyfarfod Cyhoeddus yn Llanbedr Pont Steffan i drafod blaenoriaethau plismona lleol a chlywed adborth gan y gymuned.
Cynhelir y cyfarfod nos Fawrth 3 Rhagfyr 2024 yn Neuadd Fictoria, Llanbedr Pont Steffan, am 7 o’r gloch. Bydd yn cynnwys yr Uwch-arolygydd Steve Davies, Comander Ardal Blismona Leol Ceredigion, hefyd. Bydd yn ymuno â’r CHTh i fynd i’r afael â phryderon cymunedol a rhoi diweddariadau am blismona yn yr ardal.
Cyn y cyfarfod cyhoeddus, cynhelir Cymhorthfa Agored yng Nghaffi 1822, Campws PCDDS Llanbedr Pont Steffan, o 3.00 - 5:00y.h. Anogir aelodau o’r cyhoedd i ddod i gwrdd â chynrychiolwyr o Swyddfa’r Comisiynydd a rhannu eu barn. Bydd cynrychiolwyr ar gael i siarad gydag aelodau o’r cyhoedd am unrhyw broblemau neu bryderon a allai fod ganddynt, yn ogystal â rhoi cyfle i ddysgu mwy am rôl Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu. Gall y rhai sy’n bresennol hefyd archwilio i gyfleoedd gwirfoddoli a chael mewnwelediad i fentrau ariannu a reolir gan y Swyddfa.
Dywedodd y Comisiynydd Dafydd Llywelyn: "Mae ymgysylltu cyhoeddus wrth galon plismona effeithiol. Mae’r cyfarfodydd hyn yn gyfle hollbwysig inni wrando ar bryderon y cyhoedd, rhoi diweddariadau am ein blaenoriaethau, a chydweithio i fynd i’r afael â materion sydd bwysicaf i gymunedau lleol. Edrychaf ymlaen at gwrdd â phreswylwyr yn Llanbedr Pont Steffan a chlywed eu barn."
Am ragor o wybodaeth ynghylch y digwyddiad, galwch heibio i:
https://www.dyfedpowys-pcc.org.uk/cy/ymgysylltu-ar-gymuned/cyfarfodydd-cyhoeddus/
DIWEDD
Gwybodaeth bellach:
Article Date: 03/05/2024