Cefnogi Dioddefwyr Ffyrdd ac Eirioli dros Ffyrdd Diogelach:Wythnos Diogelwch Ffyrdd 17-23 Tachwedd
Fel rhan o Wythnos Genedlaethol Diogelwch Ffyrdd (17–23 Tachwedd), mae Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn yn atgyfnerthu ymdrechion i wella diogelwch ar y ffyrdd ledled Dyfed-Powys.Mae thema eleni, “Ar ôl y Gwrthdrawiad – Mae Pob Dioddefwr Gwrthdrawiad Ffyrdd yn Cyfri”, yn tynnu sylw at y cymorth hollbwysig sydd ei angen ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt gan wrthdrawiadau ar y ffyrdd.
Mae’r Comisiynydd Llywelyn wedi ariannu cynllun peilot arloesol gyda’r elusen Brake, gan gyflwyno Eiriolwr Dioddefwyr Ffyrdd Annibynnol cyntaf Cymru.Mae'r fenter hon yn cynnig arweiniad emosiynol ac ymarferol hanfodol i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth oherwydd gwrthdrawiadau ffyrdd angheuol, i lywio canlyniadau’r digwyddiadau trasig hyn.
Er mwyn cefnogi mentrau diogelwch ar y ffyrdd, bydd y Comisiynydd Llywelyn hefyd yn bresennol yn Arddangosfa Galw Heibio ar Fentrau Diogelwch Ffyrdd yn San Steffan, a gynhelir gan Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Alison Hernandez.Mae’r digwyddiad hwn yn rhoi cyfle i rannu arferion gorau, pwysleisio dulliau cydweithredol o weithio i gael ffyrdd mwy diogel, a thrafod sut y gall trigolion chwarae rhan weithredol wrth hyrwyddo arferion gyrru mwy diogel yn eu cymunedau.
I gael rhagor o wybodaeth am fentrau Brake a gweithgareddau Wythnos Diogelwch Ffyrdd, ewch i: https://www.brake.org.uk/road-safety-week.
Article Date: 17/11/2024