Mae Tîm Cyfiawnder Ieuenctid (TCI) Sir Gaerfyrddin wedi derbyn dyfarniad cyffredinol ‘Rhagorol’ yn dilyn archwiliad gan Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi fel rhan o’i raglen o archwiliadau Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (GCI).

Cafodd y TCI eu harchwilio ar draws tri maes eang – y trefniadau ar gyfer cyflenwi’r gwasanaeth sefydliadol, ansawdd y gwaith a wneir gyda phlant a ddedfrydir gan y llysoedd, ac ansawdd y gwaith datrysiadau y tu allan i'r llys. Cafodd ansawdd y polisi a’r ddarpariaeth ailsefydlu hefyd ei archwilio, a’u dyfarnu ar wahân yn ‘Rhagorol’.

Mae TCI Sir Gaerfyrddin yn derbyn cyllid gan Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys i drosglwyddo’r prosiect cyfiawnder adferol rhanbarthol. Mae gweithio gyda dioddefwyr a dulliau adferol yn parhau’n ganolog i waith y TCI, sy’n un o’r tri Thîm Troseddau Ieuenctid sy’n peilota’r offeryn asesu newydd ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i'r Llys ar ran y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

Dywedodd Martin Jones, Y Prif Archwilydd Prawf: “Mae safon uchel o ofal ac ymroddiad i’r staff, y plant, a’r dioddefwyr sy’n defnyddio’r gwasanaeth, sy’n ymestyn o uwch reolwyr i staff gweithredol.

“Mae’r staff wedi eu hysgogi, yn angerddol, ac mae eu gwaith caled yn cael ei gydnabod a’i wobrwyo’n gyson. Mae’r bwrdd rheoli wedi ei fuddsoddi yn y TCI; y mae wedi eiriol yn barhaus ar ran y gwasanaeth a’i gefnogi’n rhagweithiol i gyflawni’r canlyniadau gorau i blant, teuluoedd, a dioddefwyr.”

Nododd yr adroddiad fod y TCI yn uchel ei barch o fewn y bartneriaeth, gydag arweinyddiaeth gref, fywiog a chyson sydd wedi galluogi’r gwasanaeth i weithredu ei weledigaeth a’i strategaeth yn effeithiol.

Canmolodd hefyd y trefniadau partneriaeth aeddfed a chydlynol sy’n galluogi plant a theuluoedd i gael mynediad at ystod o wasanaethau, gan gynnwys therapi lleferydd, iaith, a chyfathrebu, cefnogaeth addysg gofleidiol, ac ymyrraeth arbenigol ar gyfer plant sydd ynghlwm ag ymddygiad rhywiol niweidiol.

Ychwanegodd Mr Jones: “Mae darpariaeth gwneud yn iawn y TCI hefyd yn drawiadol – mae’r gwasanaeth wedi gweithio gyda’r gymuned i adnabod a chyflenwi prosiectau ystyrlon ac sy’n cael effaith, ac mae plant wedi gallu datblygu sgiliau yn ogystal â chymryd rhan mewn cyfiawnder adferol.

“Y mae hefyd yn rhagweithiol wrth geisio cyfleoedd i ddysgu a gwella’r gwasanaethau y mae’n ei ddarparu o’r sector ehangach, gan gynnwys gwaith gyda phartneriaid yr heddlu wrth fabwysiadu a lleoleiddio dull i blant â phrofiad o fod mewn gofal osgoi troseddoli a chysylltiad diangen gyda’r system gyfiawnder.”

Mae Prif Reolwr y Gwasanaethau Cefnogi Ieuenctid, Gill Adams, sy’n gweithio’n agos gyda Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn ddiweddar wedi ennill gwobr gan Ymddiriedolaeth Butler mewn cydnabyddiaeth o’i harweinyddiaeth o TCI Sir Gaerfyrddin. Wrth longyfarch Gill am ei gwobr, a’r TCI ehangach yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd y CHTh Dafydd Llywelyn:

“Hoffwn longyfarch y tîm cyfiawnder ieuenctid yn Sir Gaerfyrddin am eu gwaith caled sydd wedi ei gydnabod yn rhagorol yn adroddiad yr Arolygiaeth heddiw.

“Hoffwn estyn fy niolch am yr holl waith y mae’r tîm ynghlwm ag ef, ar y cyd â’r Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol a fy swyddfa i. Mae eu cefnogaeth wedi cyfrannu at gyflawni rhai o’r amcanion a nodwyd yn y Cynllun Heddlu a Throseddu cyfredol. Mae hyn yn cynnwys datblygu perthnasau gyda phobl ifanc drwy weithgareddau ymgysylltu a fforwm a gwasanaethau ataliol ar gyfer pobl ifanc sy’n effeithiol wrth ostwng niwed a risg. Mae eu hangerdd a’u hymroddiad yn sicrhau y byddant bob amser yn gwneud yr hyn sy’n iawn ar gyfer plant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin.”

Article Date: 19/03/2024