Diwrnod Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Gam-drin Pobl Hyn 2024

Sefyll yn Erbyn Cam-drin Pobl Hŷn: Diwrnod Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Gam-drin Pobl Hŷn 2024

Mae gan bawb yr hawl i fyw’n ddiogel, yn rhydd rhag camdriniaeth ac esgeulustod. Gall cam-drin ac esgeulustod ddigwydd yn unrhyw le: yn eich cartref eich hun, mewn man cyhoeddus, ysbyty, canolfan dydd, neu gartref gofal. 

Heddiw, ar Ddiwrnod Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Gam-drin Pobl Hŷn, rydym eisiau sicrhau bod ein preswylwyr hŷn i gyd yn gwybod beth yw camdriniaeth ac, os ydynt yn ei ddioddef, bod angen iddynt ei riportio. Mae hefyd angen i ni annog ffrindiau, teulu, gweithwyr proffesiynol, gwirfoddolwyr, a chymdogion i roi gwybod os ydynt yn credu y gallai rhywun bod yn dioddef camdriniaeth. 

Gall gam-drin effeithio ar unrhyw un a gall gymryd nifer o ffurfiau, gan gynnwys:

- Cam-drin corfforol

- Trais neu gam-drin domestig

- Cam-drin rhywiol

- Cam-drin seicolegol neu emosiynol

- Cam-drin ariannol neu faterol

- Caethwasiaeth fodern

- Cam-drin gwahaniaethol

- Cam-drin sefydliadol

- Esgeulustod

 

Os ydych yn cael eich cam-drin neu eich esgeuluso, mae llawer o bobl y gallwch siarad â nhw. Cysylltwch â rhywun rydych yn ymddiried ynddynt mor fuan â phosibl. Siaradwch â ffrindiau neu ofalwyr iechyd a fydd yn gallu deall y sefyllfa a chymryd camau’n gyflym i’w gwella. Siaradwch â gweithwyr proffesiynol fel gweithiwr cymdeithasol neu feddyg teulu ynghylch eich pryderon, neu ofynnwch i siarad â thîm neu gydlynydd diogelu oedolion eich cyngor lleol. Os ydych yn credu bod trosedd yn digwydd, neu wedi digwydd – boed hynny’n gam-drin corfforol neu ariannol – siaradwch gyda’r heddlu neu gofynnwch i rywun rydych yn ymddiried ynddynt i wneud hynny ar eich rhan.

Peidiwch â dioddef yn dawel; mae help ar gael:

Age Cymru Dyfed: Yn darparu amrediad eang o gyngor a chefnogaeth i bobl hŷn, gan gynnwys cam-drin pobl hŷn a chyngor ynghylch sgamio.

  - Ffoniwch: 03333 447 874

  - Ebost: reception@agecymrudyfed.org.uk

 

Age Cymru Powys: Yn darparu amrediad eang o gyngor a chefnogaeth i bobl hŷn, gan gynnwys cam-drin pobl hŷn a chyngor ynghylch sgamio.

  - Ffoniwch: 01686 623707

  - Ebost: enquiries@acpowys.org.uk

 

Byw Heb Ofn: Yn darparu cyngor a chefnogaeth i bobl sy’n dioddef camdriniaeth 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

  - Ffoniwch: 0808 80 10 800

  - Neges destun: 07860 077333

 

Action Fraud: Riportiwch dwyll, negeseuon testun amheus, neu seiberdroseddu.

  - Ffoniwch: 0300 123 2040

 

Heddlu Dyfed-Powys: Ffoniwch 101 i riportio digwyddiad. Mewn argyfwng ffoniwch 999 bob tro.   

 

Hourglass Cymru: Yn darparu cymorth a chefnogaeth gyfrinachol i bobl hŷn sy'n wynebu risg.

  - Ffoniwch: 0808 808 8141

  - Neges destun: 07860 052906

 

Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Dyfed-Powys Ewch at eu gwefan i gael mwy o wybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer pob un o’r timau Diogelu o fewn y rhanbarth.

   

The Silver Line: Llinell gymorth gyfrinachol 24 awr am ddim yn darparu gwybodaeth, cyfeillgarwch, a chyngor i bobl hŷn.

  - Ffoniwch: 0800 4 70 80 90

 

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm.

  - Ffoniwch: 03442 640 670

  - Ebost: ask@olderpeoplewales.com

Article Date: 14/06/2024