Ail-ethol Ymgeisydd Plaid Cymru, Dafydd Llywelyn yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys am ei drydydd tymor.

Ar ddydd Gwener, 3ydd o Fai 2024, cadarnhawyd bod Ymgeisydd Plaid Cymru, Dafydd Llywelyn wedi cael ei ail-ethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys yn dilyn yr etholiad ar 2 Mai 2024.

Y pedwar ymgeisydd oedd yn sefyll etholiad oedd:

Ian Harrison (Ceidwadwyr)

Dafydd Llywelyn (Plaid Cymru)

Philippa Thompson (Llafur)

Justin Griffiths (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru)

Cyhoeddodd Dafydd Llywelyn y datganiad canlynol:

“Mae’n anrhydedd mawr cael fy ailethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Dyfed-Powys am y trydydd tro yn olynol.

“Ers i mi gael fy ethol i’r rôl hon am y tro cyntaf yn 2016, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran gwella diogelwch cymunedol a gwella ein gwasanaeth plismona i gymunedau.

“Mae gen i hanes cryf o wrando ar bryderon ein cymunedau, a chyflawni addewidion, ac rwy’n falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni, ond mae llawer i’w wneud o hyd.

“Wrth i mi ddechrau’r tymor newydd hwn yn y Swyddfa, rwyf wedi ymrwymo i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma a mynd i’r afael â’r heriau sydd o’n blaenau.

“Bydd tryloywder, atebolrwydd a chydweithio yn parhau i fod ar flaen fy ymdrechion i sicrhau y gallwn wella ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn plismona.

“Eich diogelwch chi fydd fy mhrif flaenoriaeth o hyd. Rwyf am sicrhau bod ardal Heddlu Dyfed Powys yn parhau i fod yn un o’r lleoedd mwyaf diogel i fyw yng Nghymru a Lloegr.”

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Dr Richard Lewis:

“Llongyfarchiadau mawr i Dafydd Llywelyn ar y canlyniad y prynhawn yma. Mae cael ei ailethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throseddu i Heddlu Dyfed-Powys am drydydd tymor yn golygu y gallwn edrych ymlaen at barhau â’n gwaith o wasanaethu’r cyhoedd, gyda’n gilydd. Hoffwn hefyd ddiolch i’r ymgeiswyr eraill am eu hymwneud cadarnhaol â’r heddlu yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf.”

System Bleidleisio Newydd’

Dyma’r pedwerydd tro i etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu gael eu cynnal, gyda’r etholiad cyntaf yn cael ei gynnal yn 2012.

Mae etholiadau CHTh blaenorol yng Nghymru a Lloegr wedi defnyddio’r system pleidlais atodol, sy’n wahanol i etholiad arferol.

Pleidleisio atodol yw pan fydd pleidleiswyr yn marcio eu dewis cyntaf ar y papur pleidleisio a gallant – os dymunant, nid yw’n orfodol – farcio eu hail ddewis ar y papur pleidleisio hefyd.

Fodd bynnag, yn dilyn newidiadau deddfwriaethol, defnyddiodd Etholiadau CHTh 2024 y system pleidleisio cyntaf i’r felin, lle pleidleisiodd pleidleiswyr drwy ddewis un ymgeisydd ar y papur pleidleisio. Dyma'r un system ag etholiadau Senedd y DU ac etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr.

Dadansoddiad canlyniadau’

Roedd canlyniadau etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys fel a ganlyn:

Ian Harrison (Ceidwadwyr) 25%

Dafydd Llywelyn (Plaid Cymru) 41%

Philippa Thompson (Llafur) 24%

Justin Griffiths (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) 10%

Mae tymor newydd y CHTh yn dechrau ddydd Iau 9 Mai 2024.

DIWEDD

Nodiadau i'r Golygydd:

Bywgraffiad Dafydd Llywelyn

Mae Dafydd yn gyn Brif Ddadansoddwr Cudd-wybodaeth a bu’n gweithio o fewn Adran Cudd-wybodaeth yr Heddlu am nifer o flynyddoedd cyn, yn 2014, symud i Brifysgol Aberystwyth i ddarlithio ar Droseddeg. Mae ei yrfa wedi rhoi cipolwg sylweddol iddo ar faterion plismona craidd yn ogystal â dealltwriaeth o'r hyn y mae'r cyhoedd ei eisiau gan y gwasanaeth.

Yn ogystal â’i rôl fel Comisiynydd, mae Dafydd yn Gadeirydd Plismona yng Nghymru ac mae’n chwarae rhan weithredol mewn amryw o Grwpiau eraill gan gynnwys:

  • Gwasanaethau Digidol yr Heddlu
  • Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan
  • Un Bwrdd Adolygu Diogelu Unedig gyda Llywodraeth Cymru, Swyddog Cyfrifol Sengl Cymru.
  • Bwrdd Plismona Cymru
  • Bwrdd Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu
  • Bwrdd Rhaglen Cymunedau Diogelach
  • Rhwydwaith Troseddau Gwledig Cenedlaethol - ar Fwrdd Gweithredol Cymru
  • Cyd-Gadeirydd Bwrdd Partneriaeth Cenedlaethol VAWDASV ochr yn ochr â'r Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt AS
  • Cadeirydd Rhwydwaith Arloesi a Gwella Dadansoddi Data Cymru (WDAIIN)
  • Cadeirydd Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Lleol Dyfed Powys

Gweledigaeth gyffredinol Dafydd ar gyfer 2021-25 fu cadw cymunedau Canolbarth a Gorllewin Cymru yn ddiogel, gan gynnal ymddiriedaeth a hyder yn ein heddlu a’n system cyfiawnder troseddol yn gyffredinol.

Mae Dafydd yn siaradwr Cymraeg rhugl, yn ddyn teulu gyda 5 o blant ac yn mwynhau pob math o chwaraeon, ond mae wrth ei fodd yn dilyn tîm pêl-droed Cymru gartref a thramor.

Gwybodaeth bellach:

OPCC.Communication@dyfed-powys.police.uk

Article Date: 03/05/2024