Mynediad i wybodaeth rydyn ni’n dal
Hysbysiad Preifatrwydd
Gweler y hysbysiad yma.
Rhyddid Gwybodaeth
Sut i wneud cais am ryddid gwybodaeth
O dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000), mae angen gwneud ceisiadau yn ysgrifenedig (trwy e-bost neu lythyr). Rhowch y wybodaeth ganlynol wrth wneud cais:
- Eich enw
- Cyfeiriad cyswllt
- Disgrifiad o'r wybodaeth rydych chi'n ei cheisio
E-bost opcc@dyfed-powys.pnn.police.uk
neu ysgrifennwch at
Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau,
Blwch Post 99,
Llangynnwr,
Caerfyrddin
SA31 2PF
neu gallwch weld ein Ceisiadau ac Ymatebion (Log Datgeliadau) blaenorol.
Mae’n rhaid i ni ymateb i chi o fewn 20 diwrnod gwaith. Fodd bynnag, gall fod achlysuron pan na fydd modd i ni roi’r wybodaeth rydych chi’n ei cheisio i chi. Os felly, byddwn ni’n esbonio’n rhesymau am hyn gan ddefnyddio’r adran berthnasol o’r ddeddfwriaeth i gefnogi’r penderfyniad.
Ceisiadau Mynediad at Wybodaeth
Chwilio am wybodaeth rydyn ni’n dal amdanoch?
Medrwch wneud cais am fynediad drwy wneud “Cais Gwrthrych am Wybodaeth”
Sut i wneud Cais Gwrthrych am Wybodaeth
Gellir ond gwneud Ceisiadau Gwrthrych am Wybodaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar.
I’ch tywys drwy'r broses hyn, ddefnyddiwch ein ffurflen Cais Gwrthrych am Wybodaeth.
Nid oes rhaid i chi ddefnyddio'r ffurflen hon i wneud eich cais, fodd dynnag, bydd defnyddio'r ffurflen hon yn sicrhau bod gennym yr holl wybodaeth i'n galluogi i brosesu'ch cais heb oedi gormodol.
Mae’n ofynnol i ni ymateb i chi o fewn mis yn ôl y gyfraith. Weithiau, mae’n bosibl na fydd modd i ni roi’r wybodaeth rydych chi’n ei cheisio i chi. Os felly, byddwn ni’n esbonio’n rhesymau am hyn gan ddefnyddio’r adran berthnasol o’r ddeddfwriaeth i gefnogi’r penderfyniad. Os nad ydych yn hapus â’r penderfyniad, gweithredir trefn apelio fewnol ac yna mae gennych yr hawl i apelio i’r Comisiynydd Gwybodaeth.