Hygyrchedd
Hygyrchedd
Mae'r Swyddfa y Comisiynydd Heddlu a Throseddu wedi ymrwymo i wneud y wefan hon yn hygyrch i bawb sy’n dymuno ymweld â hi.
I ddysgu sut i wneud y wefan yn fwy hygyrch i chi trwy newid gosodiadau eich porydd, cyfrifiadur, allweddell neu lygoden, ewch i dudalen y BBC - My Web My Way.
Ein Polisi Ni
Rydym yn anelu i gyrraedd neu ragori ar y Safon AA a bennir yng Nghanllaw Hygyrchedd y We (Web Content Accessibility Guidelines). Yn ymarferol, golyga hynny ein bod yn:
- Ceisio defnyddio’r iaith symlaf posib ac osgoi jargon
- Trefnu ein dogfennau yn rhesymegol gan ddefnyddio paragraffau, penawdau, rhestrau ac elfennau priodol eraill
- Galluogi defnyddwyr i newid maint y testun
- Sicrhau digon o gyferbynnedd rhwng y lliwiau cefndir a blaendir
- Defnyddio testun disgrifiadol mewn dolennau cyswllt sy’n dangos yn glir beth yw’r ddolen
- Sicrhau bod gan bob delwedd sy’n cyfleu gwybodaeth destun disgrifiadol cyfatebol
- Darparu allweddau cyrchu
- Defnyddio cynllun hyblyg a fydd yn addas i sgriniau o bob maint a chydraniad
Gwaith parhaus
Yr ydym yn gweithio gydag Shaw Trust i wella hygyrchedd ein gwefan.
Hygyrchedd - Adborth ac Awgrymiadau
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu awgrymiadau am sut y gallwn wneud ein gwefan yn fwy hygyrch, cysylltwch â ni:
Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-PowysBlwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
Sir Gaerfyrddin
SA31 2PF