Cwynion
Mae adborth yn bwysig i ni, adborth positif ac adborth negyddol, gan ei fod yn ein helpu i adnabod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn dda, ond yn yr un modd mae yn ein helpu i adnabod y meysydd lle mae angen i ni wella.
Mae pryderon yn ein helpu i ddeall y materion sydd yn bwysig i chi. Gobeithiwn nad oes achos i chi gwyno. Beth bynnag, os oes angen i chi gwyno, dymunwn ei ddatrys i chi mor fuan ag sydd yn bosib.
Beth yw eich cwyn amdano?
Ystyrir cwynion mewn perthynas â Swyddogion/Staff yr Heddlu o dan reng Prif Gwnstabl gan Heddlu Dyfed-Powys.
Un o brif gyfrifoldebau statudol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yw delio â chwynion ffurfiol a dderbyniwyd yn erbyn y Prif Gwnstabl (blaenorol neu gyfredol). Mae'n rhaid i'r Comisiynydd gofnodi'r gŵyn a rhoi ymateb rhesymol a chymesur.
Os ydych am gwyno yn erbyn y Prif Gwnstabl cewch wneud yn un o’r ffyrdd canlynol:
- E-bostio opcc@dyfed-powys.police.uk
- Ysgrifennu llythyr at SCHTh, Blwch Postio 99, Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PF
Noder: Er mwyn gwneud cwyn yn erbyn y Prif Gwnstabl, rhaid eich bod chi’n gymwys i fod yn achwynydd. Diffinnir hyn gan y ddeddfwriaeth fel rhywun sydd wedi gweld y digwyddiad â’i lygaid ei hun, neu sydd wedi’i effeithio’n uniongyrchol ganddo. Gall pobl eraill gwyno ar eu rhan, ond dim ond gyda’u caniatâd ysgrifenedig. Gan hynny, os nad ydych wedi’ch effeithio’n uniongyrchol, neu os nad oeddech chi’n bresennol adeg y digwyddiad y mae gennych bryderon amdano, ni chewch ddefnyddio system gwyno’r heddlu i leisio’ch pryderon. Gallwch dal fynegi’ch pryderon wrth SCHTh neu’r gwasanaeth heddlu fel rhan o adborth cyffredinol. Ceir rhagor o wybodaeth am gymhwysedd yng Nghanllawiau Statudol Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu:
https://www.policeconduct.gov.uk/cy/complaints/submit-a-complaint
Mae’r broses ychydig yn wahanol wrth gwyno am CHTh. Yn unol â’r darpariaethau sydd o fewn Rheoliadau Cyrff Plismona Lleol Etholedig (Cwynion a Chamymddwyn) 2012, mae’r Panel Heddlu a Throsedd yn delio ag unrhyw gwynion am Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu.
Os ydych am gwyno am Gomisiynydd yr Heddlu a Throseddu, cysylltwch â Phanel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys os gwelwch yn dda.
Dylid cyflwyno cwynion am aelodau o staff yn Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu yn uniongyrchol i Prif Weithredwr SCHTh. Cewch gyflwyno eich cwyn drwy e-bost i opcc@dyfed-powys.police.uk neu drwy ysgrifennu at SCHTh, Blwch Postio 99, Llangynnwr, Caerfyrddin SA31 2PF. Fel arall cewch ffonio’r swyddfa ar 01267 226440.
Delir â’r rhain yn unol â’n polisi.
Os nad yw dioddefwr/dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol yn fodlon ar yr ymateb a gawsant gan Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed–Powys, gellir uwchgyfeirio sbardun cymunedol i Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu pan fodlonir un o’r mesurau canlynol:
Mesurau:
- Os yw penderfyniad a ddarparwyd sy’n amlinellu pam na chyrhaeddodd yr achos y trothwy ar gyfer adolygiad sbardun cymunedol wedi methu â darparu digon o fanylion i ddeall pam na chynhaliwyd adolygiad.
- Os yw’r adolygiad sbardun cymunedol wedi methu ag ystyried proses, polisi neu brotocol perthnasol.
- Os yw’r adolygiad sbardun cymunedol wedi methu ag ystyried gwybodaeth ffeithiol berthnasol.
Nodwch: Yn ystod adolygiad achos, efallai y bydd y defnydd o offeryn gorfodi penodol wedi cael ei ystyried. Wrth ystyried y ffeithiau a’r protocolau perthnasol, efallai y penderfynwyd na fyddai’n briodol defnyddio’r offeryn gorfodi hwnnw. Os yw offeryn gorfodi wedi’i ystyried a’r canlyniad wedi’i esbonio i’r dioddefwr ymddygiad gwrthgymdeithasol, yna ni ellir uwchgyfeirio adolygiad sbardun cymunedol i Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu oherwydd bod y dioddefwr yn anfodlon ar ganlyniad y penderfyniad ynghylch yr offeryn gorfodi. Rôl Swyddfa’r Comisiynydd fydd ystyried y broses briodol a sicrhau bod Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed–Powys wedi cynnal adolygiad priodol ac effeithiol. Wrth ystyried uwchgyfeirio sbardun cymunedol, gall Swyddfa’r Comisiynydd naill ai:
Canlyniad:
- Cadarnhau’r apêl a chyfeirio’r achos yn ôl i Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed–Powys gan ofyn iddynt ystyried proses, polisi neu brotocol penodol nas ystyriwyd yn flaenorol.
- Cadarnhau’r apêl, gan amlinellu’r wybodaeth ffeithiol berthnasol sydd heb ei hystyried gan Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed–Powys wrth ddod i benderfyniad.
- Peidio â chadarnhau’r apêl, h.y. penderfynu bod Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed–Powys wedi adolygu’r achos drwy ystyried yr holl wybodaeth ffeithiol, polisïau, prosesau a phrotocolau perthnasol yn foddhaol yn unol â’i Weithdrefn Sbardun Cymunedol ac wedi dod i benderfyniad gwybodus. Yn ei hanfod, adolygiad pen desg fydd y broses apelio ac ni fydd yn cynnwys gwrandawiadau na chyfarfodydd gyda dioddefwr/dioddefwyr. Pe bai’r dioddefwr yn dymuno defnyddio’r weithdrefn apêl, dylid gwneud y cais hwn yn uniongyrchol i Swyddfa’r Comisiynydd o fewn 28 diwrnod i dderbyn canlyniad cais sbardun cymunedol gan Grŵp Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Dyfed–Powys. Mae angen cyflwyno’r holl waith papur perthnasol ynghyd â sail yr apêl (h.y. pam nad yw mesurau 1, 2 neu 3 wedi’u bodloni). Bydd Swyddfa’r Comisiynydd yn ymgymryd â’r apêl ac yn hysbysu’r dioddefwr/dioddefwyr o’r canlyniad (naill ai 1, 2 neu 3 uchod) cyn gynted â phosibl, ac ym mhob achos o fewn 30 diwrnod gwaith.
Nodwch: Mae penderfyniad Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn derfynol ac ni ellir apelio yn ei erbyn.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am ystadegau Adolgygiad Achos YGG yma: Adolygiad Achos ymddygiad gwrthgymdeithasol
Noder:
Nid yw rôl SCHTh mewn perthynas â ‘Chais am Adolygiad’ o gŵyn yn dilyn y canlyniad a roddwyd gan yr Adran Safonau Proffesiynol yn cynnwys ailymchwilio i’ch cwyn, fodd bynnag, mae’n cynnwys ystyried y canlynol yn ddiduedd:
1. Pa un ai a oedd eich cais am adolygiad yn ddilys
2. Pa un ai a oedd canlyniad eich cwyn yn rhesymol a chymesur
3. Unrhyw argymhellion y dylid eu gwneud i’r Heddlu o ganlyniad i drin eich cwyn a/neu’r canlyniad
Ble i anfon y ffurflen adolygiad hon
Anfonwch eich ffurflen orffenedig at Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu (SCHTh). Gweler y manylion cyswllt isod:
E-bost: opcc@dyfed-powys.police.uk
Cyfeiriad: Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Blwch Post 99, Llangynnwr, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 2PF
Ffurflen Adolygiad Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys
Am fwy o wybodaeth ewch yma: Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
Sylwer
Mae penderfyniad SCHTh yn derfynol ac ni ellir apelio
Yr ydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau Cymraeg o safon uchel i’n holl gwsmeriaid mewn ffordd deg a chyfartal.
Pa un ai a ydych chi’n anfodlon â’r gwasanaeth yr ydych wedi’i dderbyn neu wedi derbyn gwasanaeth ardderchog, hoffem wybod amdano.
Dylid cyfeirio cwynion ynglŷn â’n gwasanaeth Cymraeg at Bennaeth Staff SCHTh drwy anfon e-bost at opcc@dyfed-powys.police.uk neu drwy anfon llythyr at SCHTh, Blwch Post 99, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PF. Fel arall, cewch alw’r swyddfa ar 01267 226440. Bydd y rhain yn cael eu trin yn unol â’n polisi.
Os ydych yn unhapus efo'r ymateb a gawsoch, gallwch gyflwyno cwyn bellach i Gomisiynydd y Gymraeg. Mae fwy o wybodaeth ar gael ar wefan Comisiynydd y Gymraeg.