Mae Grŵp Ymgynghorol Annibynnol (GYA) Heddlu Dyfed-Powys yn cyflawni rôl bwysig cyfaill beirniadol ar gyfer y Gwasanaeth Heddlu a Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu (SCHTh). Fforwm ydyw lle mae aelodau o’r cyhoedd yn medru rhoi cyngor annibynnol inni ynghylch materion penodol a nodir gan yr Heddlu a SCHTh.

Nid yw craffu yn un o rolau’r GYA. Yn hytrach, mae yno i warchod unrhyw ran o’n cymunedau rhag dioddef anfantais yn sgil diffyg dealltwriaeth, anwybodaeth neu gred gamsyniol. Mae aelodau’n GYA yn aml yn medru defnyddio profiad byw i gynnig mewnwelediad unigryw, cymorth a chefnogaeth wrth inni wneud newidiadau i’r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau, i’n polisïau, ac ar amrediad o faterion eraill.

Mae’r GYA yn cynnwys trawsgynrychiolaeth o’n cymunedau amrywiol o ran oed, rhyw, ailbennu rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol a’r iaith Gymraeg.

Un o’n hamcanion allweddol yn ein Cynllun Cydraddoldeb Amrywiol ar gyfer 2020-2024, a ddatblygwyd ar y cyd rhwng Heddlu Dyfed-Powys a SCHTh, yw:

Gwella ein dealltwriaeth o’n cymunedau amrywiol er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau’n addas ar gyfer y diben, a bod gan ein holl gymunedau lais mewn plismona.

Er mwyn cyflawni’r amcan penodol hwn, mae’n rhaid inni sicrhau bod gan ein cymunedau lais uniongyrchol mewn materion plismona, ac mae’r Grŵp Ymgynghorol Annibynnol yn chwarae rhan fawr yn hyn.

Ceir esboniad llawn o’r ffordd y nodom yr amcanion cydraddoldeb hyn, ynghyd â’r camau y bwriadwn eu cymryd i’w cyflawni, yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer 2020-2024.

Mae’r GYA yn cwrdd yn rhithwir bob 3 mis, felly does dim rhaid ichi adael cysur eich cartref hyd yn oed! Darperir manylion ynghylch sut i gael mynediad i’r cyfarfodydd ar-lein.

Medrwch gynrychioli’r GYA mewn cyfarfodydd eraill a allai fod o ddiddordeb ichi hefyd.

"Ymunais â’r GYA ar ôl ymddeol o Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys fel Gweithiwr Datblygu Iechyd Meddwl. Bûm yn mynychu Cyfarfod Argyfwng a Chydraddoldeb Heddlu Dyfed-Powys yn Llandrindod fel rhan o’m swydd fel Gweithiwr Datblygu. Roedd y ffordd yr oedd yr Arolygydd a oedd yn gyfrifol am y grŵp yn derbyn awgrymiadau a allai wella’r gwasanaeth a ddarperir gan yr Heddlu wedi creu argraff arnaf. Y parodrwydd hwn i dderbyn syniadau ac agwedd gadarnhaol â’m hanogodd i ymuno â’r GYA. Nid wyf wedi fy siomi." | Derek Turner, aelod o’r GYA

“Yr oeddwn eisiau gwirfoddoli i’r GYA oherwydd rwy’n gwybod gwerth casglu barn a safbwyntiau amrywiol wrth sefydlu polisïau a strategaethau. Yr wyf yn gweithio i leihau anghydraddoldebau o ran mynediad a llwyddiant mewn addysg, gan geisio rhoi cyfleoedd a dyheadau i bobl o bob oed. Mae’n ddiddorol iawn deall mwy am y gwasanaethau a ddarperir gan Heddlu Dyfed-Powys a sut y mae blaenoriaethau’n cael eu sefydlu, ac mae’n hawdd iawn rheoli’r ymrwymiad amser. Rwy’n gobeithio fy mod i’n medru cynnig safbwynt gwahanol, o du allan i rolau proffesiynol plismona, dargyfeirio, ymyrraeth a chymorth i ddioddefwyr. | Debra Croft, aelod o’r GYA

A oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod? Hoffech chi ddylanwadu ar benderfyniadau, neu a oes gennych ddiddordeb mewn sicrhau tegwch a chydraddoldeb? Os felly, ymunwch â ni!

Sut mae gwneud cais

Llenwch y ffurflenni isod a naill ai:

  • E-bostiwch nhw atom ar: equalityanddiversity@dyfed-powys.police.uk, neu
  • Argraffwch nhw a’u hanfon drwy’r post at: Y Tîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Heddlu Dyfed-Powys, Pencadlys yr Heddlu, Blwch Post 99, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA31 2PF.

Mae’r broses recriwtio ar gyfer y GYA yn deg a thryloyw. Caiff ymgeiswyr eu fetio hyd at Fetio Personél sydd heb fod yn Heddlu Lefel 2, yn unol â Pholisi Fetio Cenedlaethol Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu.